top of page

Popeth feat. Bendigaydfran - Blas y Diafol - 21/10/2022

Screenshot 2022-09-29 at 22.57.50.png

Pwy 'dw i?

Does dim ateb.

Dim ond rhes o gwestiynau a phetha dwi'n ama.

 

Yn y drych

Does dim ateb

'mond gwynebu fy ofnau o fyw yn y golau.

 

Pwy wyt ti?

Pam ti’n cuddio?

Ti’n sefyll yna’n barod i’m temptio...

A dwi’n gaeth i ti.

 

Nawr dwi'n byw yn nhân dy gasineb

bron a marw ishe gweld dy wyneb.

Cam yn nes a’n cyrff yn cyfarfod

Ond mae blas y diafol ar dy dafod.

 

Blas y diafol ar dy dafod.

 

Tân, tân yn llosgi fy nghalon

Tân, tân sy’n rhwygo trwy’r noson.

Tân, tân yn llosgi fy nghalon

Dwi’n gwybod bydd ‘na boen,

A dagrau ar fy nghroen

 

Blas y diafol ar dy dafod.

 

I ble’r awn ni, lawr i Annwn?

I ddawnsio’n y cysgod a blasu pob bechod.

Mae’n rhy hwyr i ni guddio,

pam ei wrthod, pam ei rwystro...

Dwi’n gaeth i ni. 

 

Nawr dwi'n byw yn nhân dy gasineb

bron a marw ishe gweld dy wyneb.

Cam yn nes a’n cyrff yn cyfarfod

Ond mae blas y diafol ar dy dafod.

 

Blas y diafol ar dy dafod.

 

Tân, tân yn llosgi fy nghalon

Tân, tân sy’n rhwygo trwy’r noson.

Tân, tân yn llosgi fy nghalon

Dwi’n gwybod bydd ‘na boen,

A dagrau ar fy nghroen.

 

Blas y diafol ar dy dafod.

bottom of page